Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil Lefelau Diogel Staff
Nyrsio (Cymru)
1. Ar 1 Rhagfyr 2014, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn pennu dyddiad cau o 10 Ebrill 2015 i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a chyflwyno adroddiad arnynt a dyddiad o 5 Mehefin ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2.
2. Ar 3 Mawrth 2015, mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod amserlen diwygiedig yn newid dyddiad cau y Pwyllgor i adrodd ar yr egwyddorion cyffredinol i 8 Mai 2015 ac yn newid y dyddiad i gwblhau trafodion Cyfnod 2 i 17 Gorffennaf 2015.
3. Cytunwyd egwyddorion cyffredinol y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin 2015, ond nid yw’r cynnig ar y penderfyniad ariannol wedi’i gyflwyno eto. O ganlyniad, ar 14 Gorffennaf 2015, mewn ymateb i gais pellach gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod amserlen diwygiedig yn newid y dyddiad i gwblhau trafodion Cyfnod 2 i 11 Rhagfyr 2015.